Go to to content

Content

Rhwydwaith ffôn a band llydan BT yn esblygu

Mae BT, wrth ymgynghori â diwydiant telathrebu’r Deyrnas Unedig a gyda chymorth Ofcom, yn uwchraddio ei linellau ffôn, band llydan ac ISDN i rwydwaith datblygedig newydd*.

Pam y newid?

Bydd eich gwasanaethau telathrebu cyfredol - galwadau ffôn, band llydan ac ISDN - yn esblygu’n gyflym yn y dyfodol agos, gan greu cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau arloesol. Bydd llawer ohonynt yn dibynnu ar dechnolegau protocol rhyngrwyd ac yn ein galluogi i gyfathrebu a chreu mewn ffyrdd nad oedd yn bosibl yn y gorffennol.

Ni ddylech sylwi’r gwaith

Byddwn yn gwneud y rhan helaeth o’r gwaith i adeiladu rhwydwaith newydd BT dros nos mewn cyfnewidfeydd ffôn. Cynlluniwyd yn ofalus er mwyn cyfyngu ymyrraeth â’ch gwasanaethau i’r lleiaf posibl.

Unrhyw beth i mi wneud?

Ni fydd angen gwneud unrhyw beth i'ch ffôn, soced na'r llinell a dylai eich offer weithio'n normal. Ni fyddwn yn ymweld â'ch cartref nac yn cloddio'r stryd. Ni fydd yn effeithio prisiau eich galwadau ffôn, rhent llinell neu gysylltiad rhyngrwyd. Ac ni fyddwn yn ymweld â chi nac yn cloddio eich stryd.

Ymyrraeth â gwasanaethau

Byddwch yn sylwi ymyriadau byr i wasanaethau ffôn, band llydan ac ISDN ar wahanol amserau yn y misoedd ac wythnosau'n arwain at y noson pan fyddwn yn trosi eich llinell ffôn. Bydd hynny'n ein caniatáu i wneud gwaith angenrheidiol heb amharu ar y rhwydwaith. Ar y noson pan fyddwn yn trosi eich llinell ni fyddwch yn gallu gwneud galwadau am hyd at 3 munud neu dderbyn galwadau am hyd at 30 munud. Ar ddyddiad gwahanol bydd ymyriad o hyd at 10 munud i wasanaethau band llydan.

Ymyrraeth â gwasanaethau yn eich ardal

Gwasanaethau brys

Bydd trefniadau arbennig ar gyfer galwadau i'r gwasanaethau brys. Os byddwch ar y ffôn i'r gwasanaethau brys pan fydd y gwaith peirianneg yn dechrau, ni fydd yn terfynu eich galwad. Ond os bydd y gwaith eisoes ar y gweill, ni fyddwch yn gallu gwneud galwadau brys tan i ni ei gwblhau.

Ni fydd yn effeithio ffonau symudol yn uniongyrchol, felly cofiwch ailwefrio'r batri. Os yn defnyddio gwasanaeth talu wrth fynd, diweddarwch eich credyd erbyn y dyddiad switsio rhag ofn bydd angen gwneud galwad tra byddwn yn trosi eich llinell sefydlog.

Y ffeithiau

Gallwch hefyd siarad â ni'n ddi-dâl ar 0800 030 4000, 8.00am - 8.00pm Llun - Gwener, 9.00am - 5.00pm Sadwrn a Sul.

Mae gweddill y wefan yn Saesneg. Os am gael fersiynau Cymraeg o unrhyw eitemau ar y safle, galwch ni ar 0800 030 4000.

* Os yn derbyn gwasanaeth cebl, yn gwsmer Kingston Communications, Dwyrain Swydd Efrog, neu ddim angen llinell BT ar gyfer eich gwasanaethau ffôn, band llydan neu ISDN, ni fydd cyflwyno rhwydwaith newydd BT yn eich effeithio. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd eich trefniadau telathrebu cyfredol yn parhau. Ni fydd y datblygiadau uchod yn effeithio gwasanaethau symudol yn uniongyrchol.

Latest Updates

Jan 2008, new look website went live Jan 2008, new look website went live »
In January 2008 the new look switched-on website went live, featuring improved navigation.
Cardiff: the first switched-on area Cardiff: the first switched-on area »
Cardiff gets switched-on first, reflecting its spirit of innovation and regeneration.
Any questions? Any questions? »
Read our answers to some of the most frequently asked questions.
Left Banner
Right Banner

Footer Links

Go to top